Gyda anghenion diogelwch ac atebolrwydd cynyddol mae Camerâu Cylch Cyfyng yn hanfodol i nifer of fusnesau. Gall BCC darparu a gosod datrysiadau sy’n galluogi monitro staff, ymwelwyr, stoc, peiriannu, prosesau, ayyb a hynny o unrhyw le yn y byd gyda cysylltiad i’r we.
Beth rydym yn ei gynnig
O systemau Camerâu Cylch Cyfyng syml sy’n cynnwys un neu ddau dyfais, i ddatrysiadau llawer mwy cymhleth, mae gan tîm BCC yr arbenigedd a phrofiad i ddarparu system sydd yn cwrdd a gofynion unrhyw sefydliad.
Camerâu lliw safonol i 720p gyda rheolaeth canolog syml sy’n cynnwys storio, adalw a monitro.
Mae’r camerâu proffesiynol yn cynnwys technoleg HD 1080p yn y dydd a nos, yn ogystal a’r gallu i chwyddo’r llun hyd a 3x i sicrhau bod modd dal y delweddau rydych eu angen.
Dewis o opsiynau mowntio ar gael, o math nenfwd i bolion yn ogystal a chamerâu rhannol-gudd bach gall ei mowntio’n magnetig.
Cynigwn cytundebau gwasanaeth cynhwysfawr ar gyfer systemau Camerâu Cylch Cyfyng sy’n cynnwys ymateb argyfyngol lle bo angen.
Gall system sydd wedi ei gynllunio a’i osod yn briodol fod yn arf ataliol hynod effeithiol yn erbyn darpar troseddwyr. Mae’r delweddau a storir gan y camerâu hefyd yn cynnig tystiolaeth o gamymddwyn gelli’r ei basio i’r heddlu neu swyddogion eraill. Medrwch monitro y camerâu o unrhyw ddyfais sydd a chysylltiad digonol i’r we unrhyw le yn y byd!
Mae’n datrysiadau Camerâu Cylch Cyfyng yn cynnwys:
Systemau CCC annibynnol
Systemau CCC gall eu monitro o bell
CCC isgoch
Camerâu diffiniad uchel (1080p)
Camerâu cydraniad uchel (720p)
Camerâu rhannol-gudd
CCC dros IP (defnyddio eich rhwydwaith IP cyfredol i leihau ceblau ychwanegol)
Beth i ddisgwyl wrthym
I sicrhau ein bod yn darparu y system cywir i chi, rydym yn gweithredu proses trwyadl:
Mae gofyn i fusnesau a sefydliadau sydd yn prosesi a chasglu delweddau CCC gofrestri a chydymffurfio â Deddf Amddiffyn Data. Gall BCC eich cynorthwyo i gydymffurfio gyda’r ddeddfwriaeth yma drwy gynnig gweithdai a gwasanaethau ymgynghori.
Cysylltwch gyda ni heddiw i drefni arolwg.
Ymlaciwch
Canolbwyntiwch ar eich busnes
Leave IT to us
Cwblhewch y ffurflen isod i ddanfon neges at BCC
Website Design Internet Creation